Bydd ein maes parcio blaen yr adeilad ar gau o 23-27 Ebrill. Defnyddiwch ein prif faes parcio sy’n hygyrch o Heol Marchnad.

Film

Episode 3.17 and 3.18 Twin Peaks

adv15
  • 2017
  • 1h 56m
  • United States

£0 - £5

Nodweddion

  • Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
  • Tarddiad United States
  • Blwyddyn 2017
  • Hyd 1h 56m
  • Tystysgrif adv15
  • Math Film

3.17 The Past Dictates the Future

UDA | 2017 | 59’ | cynghorir 15 | David Lynch

Mae Gordon ac Albert yn clywed bod Cooper yn mynd i Twin Peaks ond mae Mr C yn cyrraedd yno gyntaf. Mae menig arbennig Freddie yn cael defnydd. Mae Naido wedi'i thrawsnewid ac mae Cooper yn datgloi drws sy'n mynd ag e’n ôl i'r noson y bu farw Laura. Mae Julee Cruise a The Chromatics yn perfformio yn The Roadhouse.

+


3.18 What Is Your Name?

UDA | 2017 | 57’ | cynghorir 15 | David Lynch

Mae Dougie’n dychwelyd at Janey-E a Sonny Jim. Wrth i Cooper barhau i dywys Laura drwy'r coed, mae hi'n diflannu ac yn cwrdd â Diane yn y goedwig. Maen nhw’n croesi cae trydan ac yn treulio'r noson mewn motel. Wrth gyrraedd Odessa, Tecsas, mae Cooper yn cwrdd â Carrie Page ac yn mynd â hi i Twin Peaks.


____

Twin Peaks: The Complete Mystery

Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.

Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.

Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.

Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.


Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.

Share

Times & Tickets

Key

  • C Capsiynau