
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2017
- Hyd 1h 52m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
3.3 Call for Help
UDA | 2017 | 57’ | cynghorir 15 | David Lynch
Yn rhydd rhag y Black Lodge, ond wedi colli’i gof, mae Cooper yn cymryd lle ei doppelgänger Dougie yn Las Vegas. Ym mhencadlys yr FBI, mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr Gordon Cole yn derbyn galwad gan rywun yn dweud bod Cooper wedi'i ddarganfod yn Ne Dakota. Yn Twin Peaks mae The Cactus Blossoms yn perfformio yn The Roadhouse
3.4...Brings Back Some Memories
UDA | 2017 | 55’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae Cooper yn cael trafferth yn dod i delerau â’i fywyd newydd fel Dougie. Yn Twin Peaks, mae Sheriff Frank Truman a Deputy Bobby Briggs yn cael y newyddion diweddaraf am ymchwiliad Hawk. Mae mab Andy a Lucy, Wally Brando, yn cyrraedd y dre. Mae Gordon yn cwrdd â Phennaeth Staff yr FBI, Denise Bryson, sy'n dweud wrtho i gyfweld â doppelgänger Cooper, Mr C. Mae Au Revoir Simone yn perfformio yn The Roadhouse.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 3 Awst 2025
-
Dydd Mawrth 5 Awst 2025
Key
- C Capsiynau