
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2017
- Hyd 1h 52m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
3.5 Case Files
UDA | 2017 | 56’ | cynghorir 15 | David Lynch
Yn Buckhorn, mae ’na gliw. Yn Las Vegas, mae Dougie’n mynd ’nôl i weithio i’r cwmni yswiriant. Yn Twin Peaks, mae Becky a'i gŵr yn benthyca arian gan fam Becky, Shelly, cyn ei wario ar gyffuriau. Mae Dr. Jacoby yn darlledu ei sioe o'i drelar. Yn y Pentagon maen nhw’n synnu wrth glywed pwy yw’r corff di-ben ac mae Tammy yn canfod cliw. Yn y Roadhouse, mae Richard Horne yn dangos ei wir liwiau ac mae Trouble yn perfformio ar y llwyfan.
+
3.6 Don’t Die
UDA | 2017 | 56’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae Janey-E yn negodi gyda throseddwyr ac mae Dougie’n creu delweddau cryptig ar y ffeiliau achos yswiriant. Mae Albert yn dod o hyd i gyn gynorthwyydd Cooper, Diane. Yn Twin Peaks, mae Red yn rhoi cyfarwyddiadau i Richard Horne. Mae Sharon Van Etten yn perfformio yn The Roadhouse.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 10 Awst 2025
-
Dydd Mawrth 12 Awst 2025
Key
- C Capsiynau
More at Chapter
-
- Film
Episode 3.1 and 3.2 Twin Peaks
3.1 My Log Has a Message for You + 3.2 The Stars Turn and a Time Presents Itself
-
- Film
Episode 3.3 and 3.4 Twin Peaks
3.3 Call for Help and 3.4...Brings Back Some Memories
-
- Film
Evolution of Horror presents: Twin Peaks: Fire Walk With Me (18)
FBI Agents disappear covering mysterious cases during Laura Palmer's final days.