
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2017
- Hyd 1h 54m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
3.7 There's A Body All Right
UDA | 2017 | 57’ | cynghorir 15 | David Lynch
Yn Twin Peaks, mae Frank yn galw Doc Hayward. Mae Diane yn gweld Mr C yn y carchar ac yn dweud nad Cooper yw e. Ar ôl ffrae, mae rhan o Cooper yn cael ei ddeffro yn Dougie. Yng ngwesty'r Great Northern, mae Beverly’n ceisio dod o hyd i ffynhonnell sŵn hymian yn swyddfa Ben Horne.
+
3.8 Gotta Light?
UDA | 2017 | 57’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mewn gwrthdrawiad, mae Mr C yn cael ei saethu ac mae dynion coed yn rhwygo ei gorff, gan ddatgelu pelen. Mae Nine Inch Nails yn chwarae yn The Roadhouse. Mewn ôl-fflachiad i Mecsico Newydd ym 1945, mae'r bom atomig cyntaf yn cael ei danio ac mae Yr Arbrawf yn cychwyn. Yn ddiweddarach, mae dyn coed yn mynd i orsaf radio ac yn darlledu neges ddirgel dro ar ôl tro, gan wneud i’r gwrandawyr fynd yn anymwybodol. Mae creadur yn mynd i ystafell merch anymwybodol ac yn dringo i lawr ei gwddf.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
More at Chapter
-
- Film
Episode 3.1 and 3.2 Twin Peaks
3.1 My Log Has a Message for You + 3.2 The Stars Turn and a Time Presents Itself
-
- Film
Episode 3.3 and 3.4 Twin Peaks
3.3 Call for Help and 3.4...Brings Back Some Memories
-
- Film
Episode 3.5 and 3.6 Twin Peaks
3.5 Case Files and 3.6 Don’t Die
-
- Film
Evolution of Horror presents: Twin Peaks: Fire Walk With Me (18)
FBI Agents disappear covering mysterious cases during Laura Palmer's final days.