
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 2017
- Hyd 1h 51m
- Tystysgrif adv15
- Math Film
3.9 This Is The Chair
UDA | 2017 | 58’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae Mr C yn gofyn i rywun ladd Warden Murphy ac yn anfon neges destun at Diane. Mae heddlu Las Vegas yn ymchwilio i Dougie ac mae'r FBI yn aros yn Buckhorn. Yn Twin Peaks, mae mam Bobby yn trosglwyddo neges gan ei dad. Mae Jerry Horne yn gweld pethau, ac mae Au Revoir Simone a Hudson Mohawke yn perfformio yn The Roadhouse
+
3.10 Laura Is The One
UDA | 2017 | 53’ | cynghorir 15 | David Lynch
Mae Richard Horne yn herio Miriam ac yn ymosod ar ei nain. Mae'r brodyr Mitchum yn gweld Dougie yn y papur newydd. Mae Gordon yn profi gweledigaeth o Laura, tra bod Tammy ac Albert yn dod o hyd i gliwiau. Mae Hawk yn derbyn galwad ffôn arall gan y Log Lady, ac mae Rebekah del Rio a Moby yn perfformio yn The Roadhouse.
____
Twin Peaks: The Complete Mystery
Mewn tre torri coed yng Ngogledd-Orllewin America, mae’r gymuned yn cael ei hysgwyd pan fydd corff marw Laura Palmer yn cael ei ganfod; brenhines ei blwyddyn ysgol, gwirfoddolwraig pryd ar glud, a cheerleader yr oedd ei llun llawen yn eistedd yn falch yn y cwpwrdd tlysau. Buan mae’r asiant FBI anarferol Dale Cooper yn canfod bod trigolion y dre dawel yn llawn cyfrinachau. Mae David Lynch ac awdur Hill Street Blues Mark Frost yn dod ag ensemble gwych o actorion at ei gilydd, sy’n amrywio o arwyr Hollywood fel Russ Tamblyn a Piper Laurie i actorion theatr Seattle a hen gydweithredwyr Lynch, fel Jack Nance a Catherine Coulson.
Roedd y gwaith yn greadigaeth nodedig yn hanes teledu, a chafodd swyddogion teledu eu drysu ar y pryd gan yr ymgais freuddwydiol ac abswrdaidd yma ar ddrama episodig. Dechreuon nhw golli ffydd ynddi yn ystod yr ail dymor, a arweiniodd Lynch a Frost i orffen y gyfres yn gynt na'r disgwyl. Gwnaeth Lynch ffilm nodwedd ragarweiniol wydn i’r gyfres, a 25 mlynedd yn ddiweddarach, daeth y gyfres mawr ei haros Twin Peaks: The Return, a oedd yn parhau â’r plot o ddiweddglo ffrwydrol yr ail gyfres i ddangos canlyniadau drygioni heb ei ddatrys am genhedlaeth.
Cafodd y trydedd gyfres a’r gyfres olaf, sy’n fyfyrdod metaffisegol ar amser, tarddiad drygioni, gwaddol a phwysigrwydd cymuned, ei galw gan lawer yn un o’r darnau mwyaf nodedig o gelf symud o ddechrau’r unfed ganrif ar hugain.
Dewch ar daith gyda ni i archwilio’r dirgelwch llawn dros 25 wythnos.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 24 Awst 2025
-
Dydd Mawrth 26 Awst 2025
Key
- C Capsiynau
More at Chapter
-
- Film
Episode 3.1 and 3.2 Twin Peaks
3.1 My Log Has a Message for You + 3.2 The Stars Turn and a Time Presents Itself
-
- Film
Episode 3.3 and 3.4 Twin Peaks
3.3 Call for Help and 3.4...Brings Back Some Memories
-
- Film
Episode 3.5 and 3.6 Twin Peaks
3.5 Case Files and 3.6 Don’t Die
-
- Film
Episode 3.7 and 3.8 Twin Peaks
3.7 There's A Body All Right + 3.8 Gotta Light?