
Film
David Lynch: Eraserhead (15)
- 1977
- 1h 39m
- USA
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1977
- Hyd 1h 39m
- Tystysgrif 15
- Math Film
Mewn fflat llwm gyda diflastod diwydiannol o’i gwmpas, mae Henry’n byw ar ei ben ei hunan. Ar ôl i’w gariad Mary gwympo’n feichiog, newyddion nad oes yr un o’r ddau’n rhy hapus yn ei gylch, maen nhw’n priodi ac mae hi’n symud ato. Mae’r babi, yn greadur rhyfedd, yn crio’n ddi-baid, ac mae Henry’n dechrau dianc i fyd breuddwydiol. Disgrifiodd David Lynch ei ffilm nodwedd gyntaf fel “breuddwyd o bethau tywyll a thrafferthus”. Wedi’i hariannu gan rownd bapur, Sefydliad Ffilm America, a’r actores Sissy Spacek (a oedd yn briod â’r dylunydd cynhyrchu Jack Fisk), bu’r weledigaeth wreiddiol a didostur yma o’i ffilm nodwedd gyntaf yn cael ei chwarae mewn dangosiadau canol nos am flynyddoedd, gan fynd â Lynch i’r llwyfan rhyngwladol a chadarnhau ei safle fel y ffilm gwlt berffaith.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
Ymunwch â ni mewn dangosiad o erchyllter – fyddwch chi’n methu aros i weld diwedd cyfnod y noson ar ôl hon.
-
- Film
Conclave (12A)
Gan y cyfarwyddwr Edward Berger (All Quiet on the Western Front), mae CONCLAVE yn dilyn un o ddigwyddiadau mwyaf cyfrinachol a hynafol y byd – dewis Pab newydd. Mae Cardinal Lawrence (Ralph Fiennes) yn gyfrifol am redeg y broses gudd yma ar ôl marwolaeth annisgwyl y Pab annwyl. Pan fydd arweinwyr mwyaf pwerus yr Eglwys Gatholig yn cynnull o bob rhan o’r byd ac wedi’u cloi gyda’i gilydd yn neuaddau’r Fatican, mae Lawrence yn sylwi ei fod yng nghanol cynllwyn ac yn darganfod cyfrinach a allai ysgwyd sylfeini’r Eglwys.
-
- Film
Ffilm teulu: Wicked Singalong (PG)
Ymunwch a ni am ddangosiad canwch ynghyd o Wicked!