Rydyn ni wedi diweddaru ein system docynnau'n ddiweddar.

Read more

Events

Everyman Theatre: Under Milk Wood

£0 - £18

Nodweddion

A dechrau yn y dechrau’n deg. Ar 25 Ionawr 1954, o stiwdio radio'r ‘Drydedd Raglen’ yn y Tŷ Darlledu, darlledodd y BBC y ddrama Under Milk Wood am y tro cyntaf. Dewch i weld cynhyrchiad dychmygol o’r darllediad cyntaf o stiwdio radio yng Nghaerdydd 70 mlynedd yn ôl, ym mis Gorffennaf 1955. Gwyliwch y cast o actorion, na chafodd eu gweld gan y gynulleidfa a wrandawai ar y radio gartref, yn ymgolli’n llwyr yn yr orymdaith o gymeriadau lliwgar a bythgofiadwy.

I ddathlu canmlwyddiant geni Richard Burton yn 1925, y Llais Cyntaf yng nghynhyrchiad gwreiddiol y BBC, dewch i hwylio ar draws y môr tymhestlog ar fwrdd yr S.S. Kidwelly i bentref Llareggub. Y cyfan fydd ei angen arnoch chi yw eich dychymyg wrth gael eich cludo gan gampwaith telynegol Dylan Thomas i Cockle Row, Donkey Street, Goosegog Lane ac i mewn i far y Sailor's Arms.

Anrheg fwyaf Dylan Thomas i Gymru a’r byd, o bosib, bydd Under Milk Wood yn cael ei chyflwyno gan Theatr Everyman, 7–12 Gorffennaf 2025, yn Theatr Seligman.

Share

Times & Tickets