
Film
Evolution of Horror presents: Twin Peaks: Fire Walk With Me (18)
- 1992
- 2h 14m
- USA
£7 - £9
Nodweddion
- Wedi’i gyfarwyddo gan David Lynch
- Tarddiad USA
- Blwyddyn 1992
- Hyd 2h 14m
- Tystysgrif 18
- Math Film
Yn nhre Deerfield, Washington, mae’r Asiant FBI, Chester Desmond, yn diflannu wrth chwilio am lofrudd Teresa Banks. Yn Philadelphia, mae ymddangosiad dirgel yr Asiant Philip Jeffries yn arwain Prif Swyddog Swyddfa'r FBI, Gordon Cole, i roi’r Asiant Dale Cooper ar yr achos. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Laura Palmer, merch yn ei harddegau, yn byw dau fywyd yn Twin Peaks, Washington, gan frwydro yn erbyn ei thynged anochel. Rhagarweiniad dadlennol i gyfres Twin Peaks, lle gwelwn David Lynch yn mynd i lawr ffordd dywyllwch a gwytnach ym myd ffilm na’r oedd teledu’n ei chaniatáu. Cafodd y ffilm ei dilorni gan feirniaid ar adeg ei rhyddhau, ond wrth edrych ’nôl mae wedi cael ei hailystyried yn un o gampweithiau gyrfa Lynch.
+
Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar gyfer trafodaeth gyda Mike Muncer ar waddol parhaol Fire Walk With Me yn y maes arswyd.
____
Rydyn ni wedi ymuno â The Evolution of Horror, podlediad hanes ffilm ac arswyd blaenllaw, i gynnig dangosiad arbennig o Twin Peaks: Fire Walk With Me.
Bydd Evolution of Horror yn ymuno â ni ar gyfer y dangosiad arbennig yma, a bydd trafodaeth fyw gyda Mike Muncer ar ôl y ffilm.
Podlediad wythnosol yw Evolution of Horror, lle mae Mike Muncer yn archwilio ac yn dadansoddi hanes ac esblygiad y genre arswyd drwy edrych ar is-genres penodol un tymor ar y tro. Ym mhob pennod, mae gwestai gwahanol yn ymuno â Mike: beirniad, gwneuthurwr ffilm neu arbenigwr, i drafod ffilm benodol yn fanwl, gan edrych ar ei lle o fewn is-genre a’i heffaith ar hanes sinema.
Defnyddiwch y cod gostyngiad TWINPEAKS100 i ddatgloi ein cynnig sypyn am £100 pan fyddwch chi’n ychwanegu 22 dangosiad i’ch basged.
Times & Tickets
-
Dydd Sul 20 Gorffennaf 2025
More at Chapter
-
- Film
Episode 1.7 and 1.8 Twin Peaks
1.7 Realisation Time 1.8 The Last Evening
-
- Film
Twin Peaks: Marathon Tymor Un
Ymunwch a ni am farathon tymor 1 o Twin Peaks!
-
- Film
Episode 2.1 and 2.2 Twin Peaks
2.1 May the Giant Be With You 2.2 Coma
-
- Film
Episode 2.3 and 2.4 Twin Peaks
2.3 The Man Behind the Glass 2.4 Laura's Secret Diary