The stair lift to Cinema 1 is currently out of order. For step-free access, please book tickets for Cinema 2. Thank you for your patience!

Film

Ewart Parkinson Awards 2025 (12A)

12A
  • 1h 0m

Free

Nodweddion

  • Hyd 1h 0m
  • Tystysgrif 12A
  • Math Film

Gwobrau Ewart Parkinson i wneuthurwyr ffilmiau 13-18 oed

Mae Chapter yn falch iawn o gyflwyno gwobrau newydd ar gyfer y ffilmiau byr gorau gan wneuthurwyr ffilmiau rhwng 13 a 18 oed yn yr ardal leol! Mae croeso i bob genre ac arddull, gan gynnwys ffuglen, ffeithiol, animeiddiadau a mwy.

Bydd yr enillwyr yn cael talebau rhodd fel gwobr a bydd yr holl ffilmiau sydd ar y rhestr fer i’w gweld yn y dangosiad arbennig hwn yn Sinema 1 yn Chapter.

Bydd y cyflwyniadau’n cael eu rhannu’n ddau gategori oedran, 13-15 ac 16-18, a dyma’r gwobrau:

Ffilm Fer Orau (Ffilmio Byw) = taleb rhodd gwerth £100
Ffilm Fer Orau (Animeiddiad) = taleb rhodd gwerth £100
Canmoliaeth Arbennig = taleb rhodd gwerth £50

Bydd y ffilmiau’n cael eu beirniadu ar sail ansawdd a sgiliau, nid cyllideb nac offer!

Mae’r gwobrau hyn yn bosibl diolch i rodd gan Ymddiriedolaeth BrainWave, er cof am Ewart Parkinson OBE.

Roedd Ewart Parkinson yn beiriannydd ac yn Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chynllunio ar gyfer Cyngor Sir De Morgannwg, ac ef fu’n gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu Bar Caerdydd a gwneud canol y ddinas yn addas i gerddwyr. Roedd yn frwd dros gefnogi creadigrwydd a chynwysoldeb yng Nghaerdydd ac yng Nghymru. Ein nod gyda’r gwobrau hyn yw annog a chefnogi ein cenhedlaeth nesaf o dalent gwneud ffilmiau.

___

Y rheolau

Rhaid i’r ffilmiau fod rhwng 30 eiliad a 10 munud o hyd, gan gynnwys y teitlau a’r credydau.

Rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau rhwng 17/02/2024 a 17/02/2025, a bod yn addas ar gyfer tystysgrif BBFC 12A neu is.

Bydd y gwobrau’n cael eu dyfarnu i gyfarwyddwyr y ffilmiau. Dylai’r ffilmiau gael eu cyflwyno gan y cyfarwyddwr (os yw’n 18 oed) neu gan riant/gwarcheidwad os yw’r cyfarwyddwr dan 18 oed.

Rhaid i’r cyfarwyddwr fod rhwng 13 a 18 oed o 17/02/2025 ymlaen, ac yn byw naill ai yng Nghaerdydd neu ym Mro Morgannwg.

Rhaid cael caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint i ddefnyddio unrhyw gerddoriaeth, delweddau a chynnwys fideo gan drydydd partïon.

___

Sut i gystadlu

Cyflwynwch eich ffilmiau drwy’r ddolen hon: https://form.typeform.com/to/TTBXGtcS. Y dyddiad cau yw dydd Llun 17 Chwefror am 6pm.

Mae tocynnau ar gyfer y gwobrau a’r dangosiad ddydd Sadwrn 22 Chwefror yn rhad ac am ddim, ond rhaid eu harchebu ar wahân drwy’r dudalen hon.

Share

Times & Tickets