
Nodweddion
6.30-8.30pm | Am ddim, angen archebu
Ymunwch â ni mewn digwyddiad arbennig: Natasha Elcock & Karim Mussilhy (Grenfell United), Gaynor Madgwick (Aberfan) and Sarah Bowen (Butetown)
Yn cadeirio’r drafodaeth bydd Peter Apps (Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen) a bydd y sgwrs yn edrych ar dai cymdeithasol, sut mae hil a dosbarth yn effeithio ar ein profiad o dai, a boneddigeiddio ein cymunedau. Rydyn ni hefyd am drafod gwytnwch eithriadol y rhai sy’n dal i frwydro dros gyfiawnder, a phwysigrwydd dangos undod rhwng gwahanol gymunedau.
Bydd copïau o Aberfan - A Story of Survival, Love and Community in One of Britain's Worst Disasters gan Gaynor Madgwick a Show Me The Bodies: How We Let Grenfell Happen gan Peter Apps ar gael i’w prynu ar ôl y digwyddiad.
___
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o Grenfell: We Stand With You, rhaglen gyhoeddus i gyd-fynd â chyflwyno ffilm Grenfell gan Steve McQueen.
Mae’r daith yma o Grenfell yn cael ei chydlynu gan y Tate mewn cydweithrediad â’r lleoliadau partner, ac fe’i gwnaed yn bosib diolch i gefnogaeth arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Lloegr a gan Art Fund. Bydd pob arddangosiad am ddim, a bydd rhaglen ymgysylltu gyhoeddus gysylltiedig, a fydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Sefydliad Grenfell.
Times & Tickets
-
Dydd Sadwrn 7 Mehefin 2025
More at Chapter
-
- Events
We Stand With You – arddangosfa
Mae Common/Wealth yn dod â’r artistiaid Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter, a Jon Pountney ynghyd ar gyfer arddangosfa newydd.
-
- Events
Cofio Gyda’n Gilydd: Tystiolaeth Leoledig a Chyd-atgofion
Sut mae cofio’r trais sydd wedi’n dryllio ni? Yn y gweithdy yma, rydyn ni’n archwilio sut mae atgofion o ddigwyddiadau trawmatig yn aml yn dameidiog, yn ynysig, ac yn cael eu gadael i'r unigolyn eu cario.
-
- Film
Forensic Architecture: The Situated Testimonies of Grenfell
Bydd Forensic Architecture (FA), asiantaeth ymchwil sydd wedi'i lleoli yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, yn dangos dwy ffilm sy'n rhan o'u hymchwiliad ehangach i'r digwyddiadau’n ymwneud â’r tân.
-
- Talks
Cymunedoli — What is it and how can we all be a part of it?: Talk with Leanne Wood & Beth Winter
Leanne Wood and Beth Winter have held a series of community assemblies in the valleys.