Film
Gweithdy Creu a Chrafu Ffilm gyda Gritty Realism
Nodweddion
- Math Workshops
Oedran 15+
Dewch i roi cynnig ar grafu darluniau’n syth ar seliwloid 35mm a dod yn rhan o animeiddiad sy’n dathlu hanes ffilm yng Nghymru.
Bydd y gweithdai yma, a gaiff eu rhedeg gan gwmni Cynyrchiadau Gritty Realism mewn cydweithrediad â Sinema Chapter, yn cyflwyno’r dechneg o animeiddio uniongyrchol. Bydd cyfranogwyr yn cynhyrchu eu dilyniannau eu hunain ar gyfer ffilm sy’n cyfuno hen glipiau ffilm ac animeiddio i amlygu gwaith yr Archif Sgrin a Sain Genedlaethol, sy’n cadw ffilmiau Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yna, cewch wylio’ch gwaith yn dod yn fyw ar y sgrin fawr yn Chapter ym mis Rhagfyr.
Cefnogir y prosiect yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Amdanom Sinema Chapter
Rydyn ni’n dathlu ffilm yn ei holl ffurfiau, gan gynnig profiad sinema cyfoethog sy’n blaenoriaethu’r profiad sinema sgrin fawr, gan ddangos ffilmiau ar ffilm 35mm yn ogystal â ffilmiau digidol wedi’u taflunio â laser.
Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.
More at Chapter
-
- Film
Chapter Moviemaker (adv 18+)
Chapter's monthly showcase of short films and conversations with the filmmakers behind them.
-
- Film
Bad Film Club
-
- Film
BFI LFF 2024: The Wild Robot (U)
-
- Film
A Real Pain (U)
Mismatched cousins David (Jesse Eisenberg) and Benji (Kieran Culkin) reunite for a tour through Poland to honour their beloved grandmother. The adventure takes a turn when the odd-couple’s old tensions resurface against the backdrop of their family history.