
Ffrainc | 2021 | 141’ | 15 | Leos Carax
Adam Driver, Marion Cotillard
Mae Henry, digrifwr poblogaidd sy’n adnabyddus am ei arddull ffyrnig, a’r seren opera lachar Ann, yn cwympo mewn cariad o dan y goleuni. Pan fydd eu plentyn cyntaf yn cael ei geni – merch fach ddirgel o’r enw Annette sydd â thynged eithriadol – caiff eu bywydau moethus eu troi ben i waered. Ffilm gerdd gyffrous ac anghonfensiynol am enwogrwydd gan yr hyfryd a’r hynod Sparks a Leos Carax (Holy Motors).