
Denmark | 2020 | 116’ | TBC | Thomas Vinterberg
Mads Mikkelsen, Thomas Bo Larsen, Magnus Millang, Lars Ranthe
Mae pedwar ffrind, pob un ohonyn nhw'n athrawon canol oed, wedi diflasu ar fywyd. A hwythau'n methu rhannu eu hangerdd yn yr ysgol nac adref, maen nhw'n dechrau ar arbrawf mentrus i weld a fyddai lefel gyson o alcohol yn eu gwaed yn eu helpu i ddod o hyd i ryddid a hapusrwydd. Wrth galon y ffilm mae Martin, tiwtor, gŵr a thad na chaiff ei werthfawrogi. Yn chwarae rhan dyn fu unwaith yn ddisglair, ond sydd bellach yn ddim ond cragen ohono'i hunan, mae perfformiad teimladwy Mads Mikkelsen yn taro'r hoelen ar ei phen. Mae sgript ffraeth yn defnyddio'r sefyllfa feiddgar yma i archwilio ewfforia a phoen bywyd penrhydd.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw