
Constructing History: A Requiem to Mark the Moment, 2008
Hyd: 20’04’’
Mae Constructing History: A Requiem to Mark the Moment, 2008, yn cyflwyno hanes fel dilyniannau, ‘stori o fewn stori’, wrth i Weems adrodd ar ddechrau’r ffilm. Fe’i saethwyd yn Atlanta gyda myfyrwyr Coleg Celf a Dylunio Savannah (SCAD), ac fe’i cynhyrchwyd gan SCAD a’r Ŵyl Celfyddydau Du Genedlaethol. Mae Constructing History yn gosod haenau o fomentau o drais a chythrwfl cymdeithasol ac yn dangos difrod yn llwybr yr 20fed Ganrif o ran hanes a meddwl. “Mae golau llachar hanes bellach yn cael ei daflu i lawr arnyn nhw” meddai Weems, mae’r bobl ifanc yn actio cyfres o fomentau nodedig enwog, gan gynnwys llofruddiaeth Martin Luther King Jr, mam yn dal ei merch ar ôl bom atomig Hiroshima, a golygfa o James Earl Ray yn meddwl wrth iddo edrych ar ei wn. Caiff yr ystyron dwys yma a darnau theatraidd wedi’u llwyfannu eu tarfu gan saethiadau Super-8 cythryblus o riliau newyddion a dynnwyd o deledu Weems, ac sy’n cyfeirio at y dyfodol gyda vignettes du a gwyn clòs o Barak Obama a Hillary Clinton yn ystod enwebiad arlywyddol Democrataidd 2008.
The Baptism, 2020
Hyd: 11’35’’
Mae The Baptism, 2020 wedi’i gyfarwyddo gan yr artist Carrie Mae Weems a’i ysgrifennu a’i berfformio gan y bardd sydd wedi ennill gwobrau, Carl Hancock Rux. Daw’r gwaith o Baptism (of The Sharecropper's Son & The Boy From Boonville) gan Rux, sef cerdd tair rhan a theyrnged i waddol yr arweinwyr hawliau dynol John Lewis a C T Vivian.
Yn The New York Times, galwodd Maya Phillips y darn yn “waith sy’n rhydd ac yn radical mewn ffordd nad yw celf Du yn cael bod yn aml.”
Yn adnabyddus fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol byw America, mae Carrie Mae Weems yn archwilio sut mae ein cymdeithas yn strwythuro grym drwy straeon, delweddau a syniadau sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Yn storïwr dawnus sy’n gweithio’n dameidiog rhwng testun a delwedd, mae Weems wedi datblygu ymagwedd chwyldroadol o fynegi naratifau am fenywod, pobl groenliw, a chymunedau dosbarth gweithiol.
Rhybudd Cynnwys: Cynghorir arweiniad gan rieni a disgresiwn y gwyliwr. Mae’n bosib y bydd rhai golygfeydd o’r ffilm yn peri straen i rai gwylwyr.