
Ffrainc | 2021 | 107’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Emmanuel Carrère | Ffrangeg gydag isdeitlau Saesneg | Juliette Binoche, Hélène Lambert
Yn sgil y chwalfa economaidd fyd-eang yn 2008, mae’r newyddiadurwr Marianne yn adleoli i ddinas borthladd Caen i esgus bod yn aelod o gymuned fawr o weithwyr teithiol sy’n daer i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae'n cael gwaith fel glanhawraig ar fferi sy'n teithio rhwng Ouistreham a Portsmouth, ac yn cofnodi caledwch y gwaith mae'n ofynnol iddi hi a'i chydweithwyr ei wneud. Ar yr un pryd, mae’n ceisio dygymod â’r dadleuon moesegol a moesol o esgus bod yn un o’r gweithwyr, gan gydbwyso’r angen i dynnu sylw at fywydau ei chydweithwyr gyda’i theimladau cymysg am y twyll. Mae ei chyfyng-gyngor yn gwaethygu wrth i’r merched ddatblygu cyfeillgarwch a theimlad o gymuned, gan feithrin gwytnwch ac ymdeimlad o hwyl o dan galedi eu gwaith. Mewn addasiad o’r llyfr ffeithiol llwyddiannus The Night Cleaners gan Florence Aubenas, mae Juliette Binoche yn rhoi perfformiad hyfryd yn y portread cynnil yma o’r gweithwyr a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.