
Japan | 1963 | 113’ | 12a | Iaith Dramor | Kon Ichikawa
Kazuo Hasegawa, Ayako Wakao
Mae Yukinojo, sef actor Onnagata Kabuki (sy’n perfformio fel menyw ar y llwyfan), yn cyrraedd Edo yn barod am ei berfformiad gorau erioed: dial ar y dynion a achosodd farwolaeth ei rieni. Mae Kazuo Hasegawa, yn ei 300fed rôl, yn ardderchog fel yr actor amwys ei rywioldeb, gan dynnu’r gynulleidfa i mewn i greu chwedl glòs a theatraidd. Gan gymryd y llwyfan Kabuki dramatig a steiledig, a’i droi’n hollol sinemataidd, mae Ichikawa y gwneuthurwr ffilm yn defnyddio ei gefndir ym maes animeiddio i sicrhau bod y ffilm gyffro yma’n glasur Ton Newydd.
“Mae Ichikawa yn defnyddio confensiynau melodrama ac yn eu troi ar eu pennau, gan ddod â seice toredig yr arwr yn fyw mewn cyfansoddiadau sgrin fawr arbrofol a beiddgar, yn llawn lliw caleidosgopig, dylanwadau celf bop, a choreograffi cywrain.” Criterion
Screening as part of BFI Japan 2021: 100 years of Japanese Cinema, a UK-wide film season supported by National Lottery and BFI Film Audience Network. bfijapan.co.uk
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi