
Japan | 2018 | 121’ | 15 | Iaith Dramor | Hirokazu Kore-eda
Lily Franky, Miyu Sasaki
Rhwng blociau fflatiau plaen ac ystrydebol rydyn ni’n dod ar draws bywyd ansicr a bywiog y teulu Sumida. Gan fyw ar bensiwn nain Hatsue a swyddi dros dro Osamu, maen nhw’n llwyddo i ddod drwyddi drwy fân-ladradau. Un dydd, maen nhw’n dod o hyd i ferch sydd wedi’i gadael, ac yn ei chroesawu i’w plith. Ffilm deimladwy â haenau cyfoethog, am y dewis o fod yn rhiant a natur gymhleth cariad teuluol.
“Darn iasol o deimladwy, sy’n llwyddo i gymylu’r rhaniad rhwng yr anfaddeuol a’r dealladwy yn feistrolgar, gan ddod o hyd i dynerwch yn yr amgylchiadau mwyaf llwm a thrawmatig.” Mark Kermode, The Observer