
Cymru | 2022 | 90’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Jim Archer | David Earl, Chris Hayward
Mae Brian yn byw ar ei ben ei hunan mewn pentref anghysbell yng nghefn gwlad. Fel unigolyn alltud, mae’n treulio ei amser rhydd yn dyfeisio pethau allan o wrthrychau mae’n dod o hyd iddyn nhw yn ei garej. Heb ffrindiau na theulu i ddibynnu arnyn nhw, mae Brian yn penderfynu adeiladu robot i gadw cwmni iddo. Nid yn unig mai ‘Charles’ yw dyfais fwyaf lwyddiannus Brian, ond mae’n ymddangos fod ganddo bersonoliaeth ei hunan a buan y daw’n ffrind gorau i Brian, gan ddatrys ei unigrwydd ac agor ei lygaid i ffordd newydd o fyw. Fodd bynnag, mae Charles yn creu mwy o broblemau nag yr oedd Brian wedi bargeinio amdanyn nhw, ac mae’n rhaid i’r dyfeisiwr tawel wynebu llawer o broblemau yn ei fywyd; ei ffyrdd ecsentrig, y bwli lleol, a’r fenyw mae wedi bod yn hoff ohoni erioed, ond heb fod â’r hyder i siarad â hi. Comedi dwymgalon am gyfeillgarwch, cariad, a gadael i bethau fynd. A robot saith troedfedd o daldra sy’n bwyta bresych.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw