
Mae Clwstwr a Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn ymuno â Research in Film Awards (RIFA) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) am brynhawn o ddangosiadau, sgyrsiau a rhwydweithio ar gynaliadwyedd amgylcheddol yn y diwydiant cyfryngau.
Mae’r sesiynau’n gyfle i gael eich ysbrydoli gan gynnwys a ffilmiau sydd eisoes yn codi ymwybyddiaeth ac yn eiriol dros newid, yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau am ffyrdd y gellir cyfathrebu’r argyfwng hinsawdd i wahanol gynulleidfaoedd gan ddefnyddio animeiddio.
O animeiddwyr i gomisiynwyr cynnwys, ymchwilwyr academaidd i ymchwilwyr cynhyrchu - byddem wrth ein bodd yn eich croesawu am brynhawn o feddwl am newid.
Amserlen digwyddiadau:
Mwy o wybodaeth yn cardiffanimation.com/caf22-rifacaf
Byddem hefyd wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni yn y bore o 10am ar gyfer sesiwn weledigaeth yn dylunio’r man gwaith gwyrdd perffaith ar gyfer dyfodol animeiddio, VFX, gemau ac ôl-gynhyrchu, a sut y gallwn ei wireddu yng Nghymru. Mwy o wybodaeth yn cardiffanimation.com/caf22-green-workshop
Mae Clwstwr yn rhaglen arloesi sector sgrin i roi ymchwil a datblygu wrth wraidd cynhyrchu. Mae Clwstwr wedi ymrwymo i Gymru ddod yn arweinydd wrth symud tuag at gynhyrchu cyfryngau gwyrdd ac mae wedi ariannu nifer o brosiectau sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn ganolbwynt i gymuned animeiddio ffyniannus Caerdydd, ac yn fan cyfarfod i ddiwydiant, animeiddwyr annibynnol a selogion o’r byd animeiddio ehangach. Mae’r Ŵyl ar hyn o bryd yn cynnal prosiect Ymchwil a Datblygu gyda Clwstwr i archwilio sut i gyflawni Diwydiant Animeiddio Sero Net.
Research in Film Awards (RIFA) yr AHRC yw’r unig wobrau ffilm sy’n ymroddedig i ddathlu a chydnabod ymchwil i’r celfyddydau a’r dyniaethau trwy ffilm. Yn 2021 a 2020, buont yn dathlu ymchwil amgylcheddol flaengar trwy eu categori Ffilm Argyfwng Hinsawdd Gorau'r Flwyddyn.