
Mae’r artist, animeiddiwr a cherddor Jessica Ashman (AKA Spirit Sigh) yn cyfuno technegau animeiddio arbrofol a pherfformiad cerddorol byw yn ‘Dawta’. Yng nghwmni’r artist a’r drymiwr Bimpe Alliu, mae ‘Dawta’ yn daith glyweledol trwy syniadau am gylchredau etifeddol o drawma yn Blackness, wedi’i hysbrydoli gan hanes maethu traws-hiliol yn nheulu Ashman ei hun a gwaith yr awdur ffuglen wyddonol Affricanaidd-Americanaidd, Octavia Butler. Mae ‘Dawta’ yn stori am ddianc o’r gorffennol trwy ddychmygu dyfodol anhysbys, dychmygu gobaith anhysbys.
Dilynir y dangosiad hwn o'r addasiad fideo o Dawta gan sesiwn Holi ac Ateb gyda Jessica Ashman, a gynhelir gan Abigail Addison