Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
CAF: Flee + Q&A (adv 15)

CAF: Flee + sesiwn holi ac ateb

Llun 1 Ion 0001 - Sad 9 Ebr 2022

Denmarc | 2021 | 83’ | 15 | Iaith Dramor | Jonas Poher Rasmussen

Mae Flee, a enillodd Wobr Uwch Reithgor Sinema’r Byd am Ffilm Ddogfen yn Ngŵyl Ffilmiau Sundance, yn dyst i gyfeillgarwch, teulu a derbyniad.

Mae’r cyfweliad tyner yma rhwng y cyfarwyddwr ffilm Jonas a’i ffrind ysgol Amin, flynyddoedd ar ôl iddynt gwrdd am y tro cyntaf, yn blodeuo i fod yn stori eithriadol am gariad, goroesi a gwytnwch. Mae animeiddiad bywiog yn paentio stori ymadawiad Amin, o’r hyn a fu’n gartref plentyndod hapus yn Affganistan, a gaiff ei chwalu wedyn gan ryfel, i’w fywyd presennol fel academydd llwyddiannus yn Nenmarc. Wrth iddo baratoi i gymryd y cam nesaf yn ei ymrwymiad i’w bartner hirdymor Kasper, mae Amin yn cofio ei ofnau blaenorol o gael ei erlid, a sut nad oedd gair am fod yn hoyw yn Affganistan. Mae atgofion yn cael eu llunio ag olion brwsh; diwrnodau lliwgar o fyd-olwg plentyn, lliwiau tawel yr ansicr, a’r clustffonau pinc llachar sy’n torri ar draws ei stori gyda chaneuon egnïol a di-hid yr wythdegau. Tan nawr, dydy Amin erioed wedi rhannu ei stori gyfan, gan fod cyfrinach sy’n bygwth dadsefydlogi’r bywyd mae wedi’i adeiladu. Mae’n ffilm gymhellol sy’n ystyried beth yw ystyr adref.

Daneg gydag is-deitlau meddal

Dilynir y ffilm gan sesiwn holi-ac-ateb byw gyda’r Cyfarwyddwr Celf Jess Nicholls a’r Cyfarwyddwr Animeiddio Kenneth Ladekjær yn ymuno â ni o bell. This Q&A will be BSL interpreted.

Prisiau:

£6 / £4 

Included in festival pass (all passholders must book tickets to their chosen events)

Unallocated seating - sold at full capacity

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd