Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue
Cardiff Animation Afternoons: Dare (15)

Cardiff Animation Afternoons: Dare (15)

Llun 1 Ion 0001 - Sul 31 Hyd 2021

Amrywiol | 79’ | 15
Wnewch chi FENTRO eistedd gyda ni yn y tywyllwch a threulio prynhawn yn gwylio casgliad coeth wedi’i guradu o ffilmiau byrion animeiddiedig anniddig? Os ydych chi’n chwilio am ffilm gerdd lon, anifeiliaid siaradus ar antur, neu dywysogesau diniwed yn chwilio am gariad, nid dyma’r ffilmiau i chi. Bydd y ffilmiau gafaelgar ac absẃrd yn y rhaglen benfeddwol yma yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, cwestiynu eich bodolaeth, ac ymbil am fwy erbyn iddo orffen.

You’re Fit
Prydain | 3’ | Lydia Reid

Siorts byr glas, croen pinc, a llawer o gariad. Mae You’re Fit yn archwilio beth sy’n digwydd yn y gampfa go iawn, mewn ffordd ddoniol a rhywiol. 

R.A.S. 
Ffrainc | 5’ | Lucas Durkheim

Ers misoedd bellach, mae grŵp o filwyr ifanc wedi bod yn sownd ac wedi diflasu ar ymgyrch yng nghanol mynyddoedd Affganistan. Un dydd, yn ystod ymgyrch gefnogol, mae’r drefn ddyddiol yn cael ei thorri o’r diwedd.

That Makes Two of Us
Prydain | 5’ | Tim Hawkins

Mae hen uchelwr yn cael cwmni annisgwyl a digroeso pan mae’n chwydu ei doppelganger.

Dogs of the Planet
Chile | 4’ | Antonio Villamandos

Mae’r ail ganrif ar hugain wedi cyrraedd, ac mae pobl wedi gadael y blaned heb ôl. Ar yr un pryd, mae cŵn y byd wedi dechrau gweithio ar eu chwyldro eu hunain. 

Imbued Life
Ffrainc | 3’ | Ivana Bosnjak Thomas Johnson

Ffilm am gysylltiad menyw ifanc â grym bywyd byd natur. Mae’n defnyddio ei doniau tacsidermi i ‘adfer’ yr anifeiliaid yn ôl i’w cynefin naturiol. 

Sh_t Happens
Tsiecia | 8’ | Michaela Mihályi, David Štumpf

Mae gofalwr yn cael ei flino’n lân gan bopeth; ei wraig rwystredig ac un carw hollol ddigalon. Mae eu cyd-anobaith yn eu tywys at ddigwyddiadau absẃrd, gan fod shit yn digwydd o hyd. 

Police
Prydain | 9’ | Ed Smith

Mae heddwas sy’n heneiddio yn cael ei boenydio gan drawma ei orffennol.

Dogs
Hong Kong | 3’ | Benjamin Berrebi, Jakub Bednarz, Diego Cristofano, Théo Lenoble, Mohammad Babakoohi, Karlo Pavicic-Ravlic, Marthinus Van Rooyen

Mae pleidiwr Pwylaidd ifanc yn ffoi o Wrthryfel Warsaw. 

4:3
Prydain | 5’ | Ross Hogg

Mae tafluniadau yn cyfuno, yn uno, ac yn dod yn gyfan. 

Dream Cream
Canada | 5’ | Noam Sussman

Mae cwpl oedrannus yn gaeth i hufen wyneb seicedelig.

You Died
Prydain | 2’ | Sam Shaw

Rwyt ti wedi cicio’r bwced. Bydd y fideo yma’n helpu gyda hynny.

Coyote
Y Swistir | 10’ | Lorenz Wunderle

Mae coyote’n colli ei wraig a’i blant mewn ymosodiad gan fleiddiaid. Yn llawn emosiynau dynol, mae’n ceisio prosesu’r profiad. Ochr yn ochr â galar a rhithdyb, mae drwg yn cymryd mwy a mwy o le.

 

Prisiau:

£6 / £4

This film screening is unreserved seating.

You’re no longer required to book in ‘bubbles’.

For your comfort and safety, we’re selling at a reduced capacity so you can continue to observe social distancing, although this isn’t always guaranteed.

COVID safety: We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd