
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd (CAF) yn ôl am ei thrydedd flwyddyn! Mae’r dathliad animeiddio hwn at ddant pawb a bydd yn arddangos rhai o’r animeiddiadau gorau o bob rhan o’r byd ar gyfer oedolion, teuluoedd a gwneuthurwyr ffilm.
Mae’r rhaglen yn cynnwys rhaglenni ffilmiau byr â thema, ffilmiau nodwedd, dosbarthiadau meistr, gweithdai, sesiynau holi ac ateb gwneuthurwr ffilmiau, digwyddiadau diwydiant, paneli, digwyddiadau rhwydweithio a phartïon. Manylion y rhaglen yma.
Mae Pàs Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn rhoi mynediad i chi i holl ddigwyddiadau’r ŵyl yn Chapter ble mae angen tocynnau ar eu cyfer.*
Mae nifer cyfyngedig o Docynnau Cynnar am bris gostyngol ar gael nawr. Bydd pasys rheolaidd a thocynnau ar gyfer gwerthiant cyffredinol ar gael yn fuan.
Am y tro cyntaf erioed, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn mynd yn hybrid, gyda digwyddiadau ar-lein yn cael eu cynnal rhwng 7-24 Ebrill. Mae eich pàs gŵyl hefyd yn rhoi mynediad hanner pris i chi i holl ddigwyddiadau ar-lein CAF.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cardiffanimation.com
*How to select the events you'd like to attend after purchasing a pass:
*Sylwer, bydd angen i ddeiliaid pàs yr ŵyl ddewis y digwyddiadau yr hoffent eu mynychu er mwyn sicrhau lle. Ar ol prynu pàs, mewngofnodwch i'ch cyfrif Chapter ac ychwanegwch y digwyddiadau at eich basged ac yna ewch i’r ddesg dalu (bydd y cynnig yn cael ei gymhwyso). Byddwn yn cysylltu â deiliaid pàs yr ŵyl trwy e-bost pan fydd tocynnau ar gael ond edrychwch ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cardiffanimation.com/2022-passes-tickets
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi