
Amrywiol | 2020 | 55’ | dim tystysgrif | amrywiol
Mae’r rhestr fer yma’n dathlu gwaith y gwneuthurwyr ffilm dawnus a gyflwynodd eu gwaith i Ŵyl Ffilmiau Fach Caerdydd eleni. Arddangosiad o wneuthurwyr newydd y dylid cadw llygad amdanyn nhw.
Blue Ashes
Ffrainc | 2020 | 15’ | Thaddeus Christandl
Mae tad, mam a merch yn ceisio dianc o’r wlad ar ôl pandemig byd-eang. Maen nhw’n cwrdd â smyglwr, ond mae’r prisiau’n rhy uchel a does ganddyn nhw ond digon i ddau deithiwr.
The Gas
Twrci | 2020 | 14’ | Utku Çırak
Pan fydd trychineb yn taro’r pentref, mae’r trigolion yn ceisio torri melltith drwy gyfres o ddefodau rhyfedd.
Love of Words, Words of Love
Prydain | 2020 | 12’ | Fortis Simons
Mewn byd lle rydych chi’n talu am y geiriau rydych chi’n eu dweud, mae Eden, feiolinydd ifanc sydd â llond llaw o eiriau yn unig i’w henw, yn ceisio gwireddu dymuniad olaf ei chwaer.
A Swimming Lesson from Dad
Hwngari | 2020 | 14’ | Biró Melinda Ildikó
Mae Vivi, sy’n 6 oed, yn wirioneddol ofni dŵr. Serch hynny, ar ôl gwers nofio ei thad, mae’n sylweddoli bod pethau mwy dychrynllyd mewn bywyd na phwll y plant.
Rhaglen Cardiff Mini Festival
Sadwrn 2 Hydref
5pm - Big Spender
7pm - Digwyddiad Rhwydweithio Ffilm– (Gofod Cyntaf)
Sul 3 Hydref
10.30am - Animation
12.10pm - Student Award
1.40pm - Music Videos and One Minute Wonder
3.15pm - Documentary
4.50pm - Low Budget
6.40pm - Welsh Film Award
8.05pm - Twisted Tales
9.00pm - Awards & Closing Party (Gofod Cyntaf)