Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Cardiff Mini Film Festival: Welsh Film Award (no cert)

Gŵyl Ffilmiau Fach Caerdydd: Welsh Film Award (no cert)

Cymru | 2020 | 55’ | dim tystysgrif | amrywiol
Mae Gwobr Ffilm Cymru’n cefnogi ac yn dathlu gwneuthurwyr ffilmiau newydd sy’n gweithio yng Nghymru. Ymunwch â ni ar antur gyda derwyddon di-drefn, barddoniaeth queer tanllyd, cysylltiad rhwng tad a mab, a fortecs llwyr-feddiannol. Llongyfarchiadau i bawb!

Druids
Cymru | 2020 | 14’ | Shwan Nostrapour

Taith yn ôl drwy niwloedd amser, ar antur gyda thri derwydd di-drefn, wiwer ddireidus, a iâr seicedelig, wrth iddyn nhw geisio adfer cydbwysedd natur ar ôl i ddigwyddiad astrolegol fygwth newid eu byd am byth.

Lochgoilhead Forever
Cymru | 2020 | 15’ | Liam Martin

Yn y darn craff yma, mae’r gwneuthurwr ffilm a’i dad blin yn mynd i’r cartref a esgeuluswyd lle roedd ei nain a’i daid yn byw. Fel y tŷ ei hun, does dim llawer o sylw wedi’i roi i berthynas y ddau ddyn. Mae gweithio drwy’r creiriau llychlyd yn dasg emosiynol.

Road Rage! 
Cymru | 2020 | 5’ | James Button

Mae’r Cymro blin, Derw Derw, yn hwyr i’w gyfweliad, ac felly’r peth olaf sydd ei angen arno yw cael ei sugno i fortecs.

Lesbian.
Cymru | 2020 | 5’ | Rosemary Baker 

Ffilm fer rymus yn seiliedig ar gerdd gan Lisa Luxx. Mewn cyfnod o benawdau newyddion am ymosodiadau cyhoeddus ar lesbiaid, mae’n alwad i weithredu, ac i ail-hawlio’r gair.

Take Control
Cymru | 2020 | 15’ | Luke Walters

Mae'r myfyriwr Bethany yn cael ei orfodi i sefyllfa anodd ar ôl i'r cariad Aaron ddarganfod ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol sydd wedyn yn arwain at sefyllfa sy'n newid bywyd.

 

Rhaglen Cardiff Mini Festival 

Sadwrn 2 Hydref
5pm - Big Spender 
7pm - Digwyddiad Rhwydweithio Ffilm (Gofod Cyntaf)
 
Sul 3 Hydref
10.30am - Animation
12.10pm - Student Award
1.40pm - Music Videos and One Minute Wonder
3.15pm - Documentary
4.50pm - Low Budget
6.40pm - Welsh Film Award
8.05pm - Twisted Tales
9.00pm -  Awards & Closing Party (Gofod Cyntaf)

Prisiau:

£6 / £4

Tocynnau ac Amseroedd