Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

CBeebies: Night Before Christmas (U)

CBeebies: Night Before Christmas (U)

Sad 4 - Sul 5 Rhag 2021

Saesneg | tystysgrif i’w chyhoeddi | 66’

Mae Sioe Nadolig flynyddol CBeebies yn ôl yn y sinemâu. Eleni, y stori yw Y NOSON CYN Y NADOLIG, ac mae’n llawn hud a lledrith y CBeebies, cerddoriaeth Nadoligaidd, perfformiadau dawns anhygoel, a chast llawn sêr o gyflwynwyr a doniau’r sgrin. Hwyl i’r teulu cyfan!

Mae’n dilyn anturiaethau Holly a’i brawd Jack ar Noswyl Nadolig wrth iddyn nhw anfon eu dymuniadau at Siôn Corn. Ond yna, mae’n rhaid iddyn nhw ddelio â’r Cipiwr Dymuniadau direidus sy’n dwyn eu dymuniadau, sy’n golygu bod yn rhaid i Holly deithio i bob twll a chornel er mwyn dod o hyd iddyn nhw. A fydd hi’n llwyddo i wneud yn siŵr fod gan Siôn Corn yr holl ddymuniadau mewn pryd ar gyfer dydd Nadolig?

Yn ogystal â’r brif sioe, mae cynnwys ychwanegol ARBENNIG ar gyfer y sgrin fawr, gan gynnwys darlleniadau o’r gerdd enwog THE NIGHT BEFORE CHRISTMAS gan Justin Fletcher a Siôn Corn, ynghyd â sesiwn gyd-ganu gwbl ryngweithiol gyda Mrs Corn a’r Corach Bach (a gaiff ei chwarae gan Little Monster). Gyda rhai o’ch ffefrynnau CBeebies yn serennu: Ben Cajee, Nigel Clarke, Jennie Dale, Gemma Hunt, Maddie Moate, Evie Pickerill, Cat Scandion a mwy.

Prisiau:

£6 / £4

Unreserved seating - for your comfort and safety, we’re selling at a reduced capacity. 

COVID safety: In line with Welsh Government legislation, you’ll need to show a COVID Pass or proof of a recent negative test result to attend. For further details, click here. We have a number of measures in place to ensure that your visit is enjoyable and as safe as possible. Find out more here.

Tocynnau ac Amseroedd