
UDA | 2022 | 107’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Cooper Raiff, Dakota Johnson, Cooper Raiff
Yn 22 oed a newydd adael y brifysgol, mae Andrew’n sownd gartre gyda’i deulu yn New Jersey. Mae wedi graddio heb ddim sgiliau amlwg heblaw am ei allu i gynnal parti, sy’n mynd ag e at y swydd berffaith – dawnsio ysgogol mewn bar a bat mitzvahs ar gyfer cyd-ddisgyblion ei frawd bach. Pan fydd Andrew a Domino, mam leol, a’i merch Lola, yn dod yn ffrindiau, mae’n darganfod dyfodol mae ei eisiau o’r diwedd – hyd yn oed os nad ei ddyfodol e fydd hynny. Stori am gariad anghonfensiynol sy’n orlawn o onestrwydd emosiynol.