
Gwylio ASSASSINS o'ch cartref
Yn 2017, cafodd Kim Jong-nam – sef hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong-un – ei ladd mewn cyntedd prysur ym maes awyr rhyngwladol Malaysia. Digwyddodd y llofruddiaeth bowld yma yng ngolau dydd, a'r cyfan wedi'i ffilmio'n ar gamerâu diogelwch. Roedd y ffilm yn dangos dwy fenyw yn mynd at Jong-nam o'r tu ôl, gan orchuddio ei lygaid gyda'u dwylo, a gwasgu VX – y nwy nerfau mwyaf marwol ar y ddaear – i'w lygaid. Baglodd i ffwrdd, ac roedd yn farw ymhen awr. Ond os oedd y llofruddiaeth yn eithafol, roedd y stori a ddilynodd yn rhyfeddach fyth: Roedd y ddwy fenyw a laddodd Jong-nam yn honni eu bod nhw wedi cael eu cyflogi i chwarae jôc ar fideo, a doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedden nhw'n ei wneud go iawn. Chredodd llywodraeth
Malaysia mohonon nhw, ac fe gawson nhw eu harestio, eu carcharu, a'u rhoi ar brawf am lofruddiaeth, gan wynebu cael eu dienyddio. Ond ai eu stori ryfedd nhw oedd y gwirionedd? Fyddai unrhyw un yn eu credu?
Mae ASSASSINS, sef ffilm ddiweddaraf y cyfarwyddwr Ryan White, yn teithio o heddwch Pyongyang, i gaeau reis Indonesia a Fietnam, i lysoedd Kuala Lumpur er mwyn adrodd chwedl eithriadol am dwyll a dichell yn oes y cyfryngau cymdeithasol. Mae ASSASSINS yn ymchwiliad meistrolgar sy'n cynnig golwg o'r newydd ar stori lofruddiaeth Kim Jong-nam, ac yn adrodd hanes annhebygol am unben cyfrwys, plot dieflig, llofruddiaeth gyhoeddus, a dwy fenyw yn ymladd am eu bywydau.
"Rhybudd iasol am wyliadwriaeth ddemocrataidd" Empire
Ffilm Ddogfen | 2021 | 104’ | 12 | Ryan White
Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni