
Gwylio AWAY o'ch cartref
Mae AWAY yn dilyn hanes bachgen yn teithio ar draws ynys ar feic modur, yn ceisio dianc oddi wrth ysbryd tywyll a dychwelyd adre. Ar y ffordd, mae'n gwneud cyfres o gysylltiadau gyda gwahanol anifeiliaid, ac mae'n ystyried y ffyrdd posib y cyrhaeddodd yr ynys. Mae AWAY, sy'n rhannol-freuddwyd rhannol-realiti, yn archwilio ein hangen cyffredin i ddod o hyd i gysylltiad.
Mae'r ffilm wedi ennill sawl gwobr, ac enillodd wobr glodfawr Contrechamp yng Ngŵyl Ffilmiau Animeiddio Ryngwladol Annecy yn 2019. Gweithiodd y cyfarwyddwr a'r animeiddiwr, Gints Zilbalodis, ar y ffilm yma am dair blynedd a hanner, yn ysgrifennu'r stori afaelgar, yn creu'r tirweddau a'r cymeriadau hardd drwy animeiddio, ac yn cyfansoddi a recordio'r gerddoriaeth hudol ar gyfer y ffilm syfrdanol heb ddeialog.
“Animeiddiad mud, swreal a llesmeiriol” The Guardian
Animeiddiad | Dim Deialog | 75’ | U | Gints Zilbalodis
Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni