Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

O ganlyniad i COVID-19, mae ein hadeilad ar gau am y tro. Byddwn ni'n monitro diweddariadau gan Lywodraeth Cymru ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein cynlluniau drwy ein cylchlythyron, ein gwefan, a'r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at adeg pan fydd modd i ni eich croesawu chi'n ôl. Tan hynny, rydyn ni'n cynnig ein rhaglen ar-lein, felly cadwch lygad ar y dudalen Digwyddiadau. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i weithredu a diogelu ein dyfodol. Diolch.

CHAPTER O'CH CARTREF: Away

Llun 18 Ion - Llun 1 Maw

Gwylio AWAY o'ch cartref

Mae AWAY yn dilyn hanes bachgen yn teithio ar draws ynys ar feic modur, yn ceisio dianc oddi wrth ysbryd tywyll a dychwelyd adre. Ar y ffordd, mae'n gwneud cyfres o gysylltiadau gyda gwahanol anifeiliaid, ac mae'n ystyried y ffyrdd posib y cyrhaeddodd yr ynys. Mae AWAY, sy'n rhannol-freuddwyd rhannol-realiti, yn archwilio ein hangen cyffredin i ddod o hyd i gysylltiad.

Mae'r ffilm wedi ennill sawl gwobr, ac enillodd wobr glodfawr Contrechamp yng Ngŵyl Ffilmiau Animeiddio Ryngwladol Annecy yn 2019. Gweithiodd y cyfarwyddwr a'r animeiddiwr, Gints Zilbalodis, ar y ffilm yma am dair blynedd a hanner, yn ysgrifennu'r stori afaelgar, yn creu'r tirweddau a'r cymeriadau hardd drwy animeiddio, ac yn cyfansoddi a recordio'r gerddoriaeth hudol ar gyfer y ffilm syfrdanol heb ddeialog.

 “Animeiddiad mud, swreal a llesmeiriol” The Guardian

Animeiddiad | Dim Deialog | 75’ | U | Gints Zilbalodis

Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni

Gwylio nawr

Prisiau:

£4.99

Select CHAPTER and we'll receive 50% of the film rental income

Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni

Watch now / Gwylio nawr

Tocynnau ac Amseroedd