
Wrth i Marie-Madeleine guro'r drwm Affricanaidd ar ddiwrnod ei gorseddu, mae'r synau tyner yn symbylu traddodiad yn cael ei dorri. Mae cyfnod newydd yn gwawrio ym mhentref Nkol Ngok I. Menyw fydd eu harweinydd traddodiadol; digwyddiad anarferol yn y rhan fwyaf o gymunedau yn Affrica, lle mae rôl y pennaeth yn dadlinachol – yn cael ei drosglwyddo o'r tad i'r mab yn ôl yr arfer. Dyma gipolwg prin ar gymuned sy'n newid. Mae agweddau cymdeithasol tuag at gydraddoldeb rhywedd yn newid, wrth i ddynion gydnabod yn agored bwysigrwydd menywod i ddatblygiad. Er bod rhai pentrefwyr yn ystyried Marie-Madeleine fel "dieithryn", gan ei bod yn byw yn y brifddinas, Yaoundé, mae'n benderfynol o ddysgu am ei diwylliant ac i ddod yn rhan o fywyd y pentref.
Cymru | 2020 | 55’ | i'w gadarnhau | Florence Ayisi
Bringing Africa to Wales Festival Programme
Ynglŷn â Gwyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru
Mae Gwyl Ffilmiau WATCH-AFRICA CYMRU yn cynnig profiad Affricanaidd unigryw i'w fwynhau o'ch cartref clud. Mae'r ŵyl bellach yn ei nawfed blwyddyn, a bydd gŵyl ar-lein eleni yn arddangos 10 teitl, sesiynau holi ac ateb byw, a gweithdai ar themâu Hunaniaeth, Comedi, Llên Gwerin, Cerddoriaeth, a mwy...
Bydd modd prynu pob ffilm a'u gwylio ar Chwaraewr Chapter. You'll need to register your interest for the workshops and Q&As via Eventbrite. For details of the full programme and to book tickets for each event, click here.
WATCH-AFRICA Cymru yw Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd flynyddol Cymru, sy'n dathlu'r gorau o fyd sinema Affrica. Fe'i lansiwyd yn 2013, ac mae'r ŵyl yn cynnig llwyfan i ffilmiau, celf a diwylliant Affrica yng Nghymru. www.watch-africa.co.uk