
Mewn pentref bach yng nghanol y mynyddoedd, mae'r wraig weddw 80 oed, Mantoa, yn rhoi trefn ar bob dim, yn gwneud trefniadau ar gyfer ei chladdu, ac yn paratoi i farw. Ond pan mae ei phentre'n cael ei fygwth ag adleoli gorfodol er mwyn adeiladu cronfa ddŵr, mae'n dod o hyd i ewyllys newydd i fyw, ac yn tanio ysbryd herfeiddiol torfol yn ei chymuned ym munudau dramatig olaf ei bywyd. Mae gwaddol Mantoa'n cael ei greu a'i droi'n fythol. Ffilm syfrdanol am hunan-fyfyrio a grym lle.
Lesotho | 2019 | 120’ | i'w gadarnhau | Lemohang Jeremiah Mosese | Mary Twala
Bringing Africa to Wales Festival Programme
Ynglŷn â Gwyl Ffilmiau Dod ag Affrica i Gymru
Mae Gwyl Ffilmiau WATCH-AFRICA CYMRU yn cynnig profiad Affricanaidd unigryw i'w fwynhau o'ch cartref clud. Mae'r ŵyl bellach yn ei nawfed blwyddyn, a bydd gŵyl ar-lein eleni yn arddangos 10 teitl, sesiynau holi ac ateb byw, a gweithdai ar themâu Hunaniaeth, Comedi, Llên Gwerin, Cerddoriaeth, a mwy...
Bydd modd prynu pob ffilm a'u gwylio ar Chwaraewr Chapter. You'll need to register your interest for the workshops and Q&As via Eventbrite. For details of the full programme and to book tickets for each event, click here.
WATCH-AFRICA Cymru yw Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd flynyddol Cymru, sy'n dathlu'r gorau o fyd sinema Affrica. Fe'i lansiwyd yn 2013, ac mae'r ŵyl yn cynnig llwyfan i ffilmiau, celf a diwylliant Affrica yng Nghymru. www.watch-africa.co.uk