
Gwylio COME AWAY o'ch cartre
Mae Peter ac Alice, sy'n frawd a chwaer, yn dod o hyd i nerth yng ngrym eu dychymyg, ac yn dechrau ar antur go iawn i achub y teulu – gan ddianc i dynged o fachgendod bythol yn ynys anghysbell Neverland – wrth i Alice ymhyfrydu ym myd Wonderland.
Mae COME AWAY yn serennu David Oyelowo, Anna Chancellor, Gugu Mbatha-Raw, Reece Yates, Angelina Jolie a Michael Caine ac wedi'i chyfarwyddo gan Brenda Chapman, cyfarwyddwr sydd wedi ennill Oscar™ a chyd-awdur Brave gan Pixar, ac yn adrodd stori dylwyth teg hudol ac ysbrydoledig wedi'i chreu gydag actorion go iawn ym Mhrydain.
Stori unigryw a dyfeisgar sy'n rhagflaenu dau ddarn o lenyddiaeth plant mwyaf hoffus ac oesol y byd
“Anhygoel” “Rhagorol” The Times
Drama | Saesneg | 94 mun | PG | Brenda Chapman | Angelina Jolie, David Oyelowo, Anna Chancellor, Gugu Mbatha-Raw, Reece Yates, Syr Michael Caine
Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni