
Gwyliwch 'Falling' o'ch cartref
Mae John (Viggo Mortensen) yn byw gyda'i bartner, Eric (Terry Chen), a'u merch, Mónica (Gabby Velis), yng Nghaliffornia, ymhell o'r bywyd gwledig traddodiadol a adawodd y tu ôl iddo flynyddoedd yn ôl. Mae tad John, Willis (Lance Henriksen), yn ddyn pengaled o'r oes o'r blaen, ac yn byw ar y fferm anghysbell lle magwyd John. Mae Willis yn dioddef â chamau cychwynnol dementia, sy'n golygu bod rhedeg y fferm ar ei ben ei hun yn gynyddol anodd, ac felly mae John yn ei wahodd i fyw yn ei gartref yng Nghaliffornia, fel bod modd iddo e a'i chwaer Sarah (Linney) ddod o hyd i le iddo fyw yn agos atyn nhw. Yn anffodus, mae Willis yn benderfynol o gadw ei fywyd yn union fel y mae.
★★★★★ Far Out | ★★★★ Empire | ★★★★ Total Film
“Drama wedi'i rheoli'n hyfryd, am oedran, cof a maddeuant” The Wrap
Drama | Saesneg | 112’ | 15 | Viggo Mortensen
Dewiswch CHAPTER er mwyn i 50% o dâl refeniw'r ffilm fynd tuag at gefnogi ein sinemau
Maw 1 Rhag 2020 - Llun 1 Chw 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Iau 28 Ion 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Sul 31 Ion 2021