
Gwylio MLK/FBI o'ch cartref
MLK/FBI yw'r ffilm gyntaf i ddatgelu faint roedd yr FBI yn cadw goruchwyliaeth ac yn aflonyddu ar Dr Martin Luther King, Jr.
Mae'r ffilm ddogfen yn seiliedig ar ffeiliau sydd newydd eu datgelu a'u gwneud yn gyhoeddus, llu o ddogfennau a gafwyd drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac a ryddhawyd gan yr Archifau Cenedlaethol, a darnau dadlennol o ffeil wedi'i hadfer, ac mae'n archwilio hanes y llywodraeth o dargedu ymgyrchwyr Duon, a'r ystyr dadleuol y tu ôl i rai o'n delfrydau mwyaf gwerthfawr.
Gyda chyfweliadau â ffigyrau diwylliannol allweddol, gan gynnwys cyn-Gyfarwyddwr yr FBI James Comey, ac wedi'i gyfarwyddo gan enillydd gwobr Emmy® ac enwebai gwobr Oscar®, Sam Pollard, mae MLK/FBI yn adrodd stori syfrdanol a thrasig, sy'n llwyr berthnasol i'n sefyllfa ni heddiw.
"Golwg diddorol ar y driniaeth y profodd un o fawrion hanes" ★★★★ TOTAL FILM
Ffilm Ddogfen | 2021 | 104’ | 12 | Sam Pollard
Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni