
Gwylio 'Murder Me, Monster' o'ch cartref
Mae'r heddwas gwledig Cruz yn ymchwilio i achos rhyfedd, lle mae corff menyw wedi'i dienyddio yn ymddangos mewn ardal anghysbell wrth fynyddoedd yr Andes. Mae David, sy'n ŵr i gariad Cruz, Francisca, yn dod o dan amheuaeth, ac mae'n cael ei anfon i ysbyty meddwl lleol. Mae David yn beio'r drosedd ar ymddangosiad anesboniadwy a chreulon y "Bwystfil", ac mae ei ddioddefwyr yn pledio "Llofruddia fi, Fwystfil". Wrth i fwy o farwolaethau ddigwydd – mae'n rhaid i Cruz ganfod pwy yw'r bwystfil go iawn.
"Nid yw'r archwiliad iasol a swreal yma o ofn a gormes yn addas i'r gwangalon" **** Sci-Fi Now
Sbaeneg, gydag is-deitlau Saesneg
Arswyd/Cyffro| Sbaeneg | 109’ | 15 | hyd i'w gadarnhau | Alejandro Fadel
Drwy wylio drwy ein dolen bwrpasol, bydd 50% o incwm rhent y ffilm yn mynd yn uniongyrchol i'n cefnogi ni yma yn Chapter.
Gwylio nawr:
Maw 1 Rhag 2020 - Llun 1 Chw 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Sul 31 Ion 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Sul 31 Ion 2021