
Gwylio Once Upon a River o gartref
Yn seiliedig ar nofel boblogaidd gan Bonnie Jo Campbell, mae Once Upon A River yn adrodd hanes merch Frodorol Americanaidd yn ei harddegau, Margo Crane (Kenadi DelaCerna), ym Michigan wledig yn ystod y saithdegau. Ar ôl profi cyfres o drychinebau a digwyddiadau trawmatig, mae hi’n dechrau ar daith ar hyd Afon Stark i chwilio am ei mam.
Ar y dŵr, mae Margo’n cwrdd â ffrindiau, gelynion, rhyfeddodau a pheryglon; ac wrth lywio bywyd ar ei phen ei hunan, mae hi’n dod i ddeall ei photensial, ac yn cael eli ar glwyfau ei gorffennol.
92’| UDA | Saesneg | 15 | Haroula Rose | Kenadi DelaCerna, John Ashton, Tatanka Means, Ajuawak Kapashesit, Sam Straley, Coburn Goss, Lindsay Pulsipher, Kenn E. Head
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw