
Gwyliwch 'Possesor' o'ch cartref
Gyda meddwl gweledigaethol y sgriptiwr-gyfarwyddwr Brandon Cronenberg (Antiviral), mae Possessor yn ffilm gyffro ffuglen-wyddonol arloesol sy'n edrych ar lofruddwraig gorfforaethol ac elitaidd, Tasya Vos (Andrea Riseborough, Mandy).
Gan ddefnyddio technoleg mewnblaniad ymennydd, mae Vos yn rheoli cyrff pobl eraill er mwyn lladd targedau proffil uchel. Wrth iddi ymgolli'n ddyfnach i'w haseiniad diweddaraf, mae Vos yn mynd yn sownd mewn meddwl sy'n bygwth ei dinistrio.
Mae Possessor yn cynnwys cast sy'n llawn sêr, gan gynnwys Christopher Abbott (It Comes at Night, The Sinner), Rossif Sutherland (Guest of Honour), Tuppence Middleton (Downton Abbey), Sean Bean (Game of Thrones) a Jennifer Jason Leigh (The Hateful Eight).
“Ffilm ffuglen-wyddonol ardderchog gyntaf y ddegawd” Film Threat
Ffilm Gyffro | 103’ | 18 | Brandon Cronenberg
Gwen 4 Rhag 2020 - Sul 31 Ion 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Sul 31 Ion 2021
Gwen 4 Rhag 2020 - Iau 28 Ion 2021