Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Rydyn ni’n agor! Digwyddiadau ac archebu bwrdd yn y Caffi Bar. Mae manylion yr hyn dylech ei ddisgwyl ar gael yma. Gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i weithredu a diogelu ein dyfodol. Diolch. 

CHAPTER O'CH CARTREF: Sisters with Transistors (PG)

Gwen 23 Ebr - Gwen 4 Meh

Gwylio Sisters with Transistors o'ch cartref

Mae byd hynod cerddoriaeth electronig wedi bod yn datblygu’n barhaus ers dechrau’r ugeinfed ganrif. O bosibiliadau di-ben-draw syntheseiswyr digidol, i’r adfywiad recordio analog diweddar; o berffeithrwydd amhosib Auto-Tune, i ddemocrateiddio creu cerddoriaeth i genhedlaeth o gynhyrchwyr ‘stafell wely’, mae pob un o’r datblygiadau eithriadol yma’n uniongyrchol gysylltiedig â gwaith a chelfyddiaeth y menywod o Sisters with Transistors. 

Mae Clara Rockmore, Daphne Oram, Bebe Barron, Delia Derbyshire, Maryanne Amacher, Pauline Oliveros, Wendy Carlos, Eliane Radigue, Suzanne Ciani, a Laurie Spiegel ymhlith prif arloeswyr sain modern, ac rydyn ni’n dal i glywed eu dylanwad, ond dydy’r rhan fwyaf o bobl heb glywed amdanyn nhw.

Mae Sisters with Transistors yn adrodd hanes arloeswyr benywaidd byd cerddoriaeth electronig – cyfansoddwyr rhyfeddol a oedd yn defnyddio peiriannau a’u technolegau rhyddhaol i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ac yn gwrando ar gerddoriaeth heddiw yn llwyr. 

Ffilm nodwedd | 84 mun | Prydain | Lisa Rovner, Anna Lena Vaney 

Gwylio nawr

This film contains a sequence of flashing lights which might affect customers who are susceptible to photosensitive epilepsy.

Prisiau:

£9.99

Watch with CHAPTER and we'll receive 50% of the film rental income

Dewiswch CHAPTER a bydd 50% o'r refeniw yn mynd i'n cefnogi ni

Watch now / Gwylio nawr

Tocynnau ac Amseroedd