
Ydych chi’n wneuthurwr ffilmiau Cwiar o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru ac sydd â rhywbeth i’w ddweud? Fis Mehefin eleni, rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau o Gymru a wnaed yn ystod y 18 mis diwethaf. Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos fel rhan o ddigwyddiad MovieMaker Chapter a bydd y ffilm fuddugol yn rhan o raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris ac yn cael ei dangos ar Channel 4 a 4OD.
Dyddiad cau 30 Mai – anfonwch gyflwyniadau i moviemaker@chapter.org.
Eleni, rydyn ni’n caniatáu i ffilmiau yr effeithiwyd arnyn nhw gan y pandemig gael eu cyflwyno. Felly, os cwblhawyd eich ffilm o 2020 ymlaen ond na chafodd ei rhyddhau, gellir ei chyflwyno.