
UDA | 2021 | 111’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Sian Heder
Emilia Jones, Marlee Matlin
Fel CODA (sef Plentyn i Oedolion Byddar), Ruby yw’r unig berson sy’n clywed yn ei theulu byddar. Mae ei bywyd yn troi o gwmpas bod yn ddehonglydd i’w rhieni a gweithio ar gwch pysgota aflwyddiannus ei theulu bob dydd gyda’i thad a’i brawd hŷn cyn mynd i’r ysgol. Ond pan mae Ruby’n ymuno â chlwb côr ei hysgol uwchradd, mae’n dysgu bod ganddi ddawn canu ac yn cael ei hatynnu at ei chyd-ddeuawdwr, Miles. Caiff ei hannog gan ei harweinydd côr brwdfrydig a gofalgar i wneud cais i ysgol gerddoriaeth uchel ei pharch, ac mae Ruby’n cael ei rhwygo rhwng y ddyletswydd mae’n ei theimlo tuag at ei theulu, a dilyn ei breuddwydion ei hunan. Ffilm graff a chynnil, sydd hefyd yn annwyl ac yn ddoniol a thyner, am fywyd teuluol.
Mae pob dangosiad yn cynnwys Is-deitlau Meddal a Disgrifiadau Sain, a sesiwn holi ac ateb 30 munud gyda’r cast a’r criw, wedi’i chynnal gan RNID.