
UDA | 2021 | 90’ | Tystysgrif i’w chadarnhau | Lilka Hara, Artur Ratton
Taith gerddorol a phersonol Dom Salvador, cerddor o dras Affricanaidd-Brasilaidd a ganfu gartref yn Efrog Newydd ar ôl gadael Brasil yn ystod cyfnod tywyllaf ei hunbennaeth filwrol. Fel tad cerddoriaeth enaid Brasil, ac un o ffigurau allweddol dechreuad y bossa nova, byddai hefyd yn dod yn eicon balchder Du gyda’i fand Abolição (neu Diddymu).
Mae’r ffilm yn cyfleu Salvador, sydd bellach yn ei wythdegau, ar strydoedd ei ddinas fabwysiedig, gydag atgofion yn dod iddo gyda phob cam. Caiff ei ostyngeiddrwydd a’i wytnwch eu dangos mewn eiliadau cyfareddol, o berfformio yn Neuadd Carnegie ac yn y River Cafe a’i olygfeydd hyfryd, i bori drwy feinyl mewn siopau recordiau a threfnu sioeau mewn clybiau jazz.