
Prydain | 2020 | 75’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Mark Archer
Taith yn edrych ar benderfynrwydd a chyfeillgarwch y band IDLES wrth iddyn nhw frwydro am le i’w cerddoriaeth mewn amgylchedd cymdeithasol-wleidyddol rhanedig, gan uno cymuned ryngwladol ar yr un pryd. Dyma ffilm ysbrydoledig sy’n dangos grym y band pync o Gasnewydd a Bryste, sy’n datgelu’r dyfnder annisgwyl sydd i’w gael wrth ganfod nerth mewn bregusrwydd.