
Prydain | 2021 | 114’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Lucile Hadzihalilovic, Paul Hilton, Alex Crowther, Romola Garai
Mewn dinas lom yn Ewrop, rywbryd yng nghanol yr ugeinfed ganrif, mae Albert yn cael ei gyflogi i ofalu am Mia, merch â dannedd o iâ sydd byth yn gadael ei chartref. Un dydd, daw galwad yn dweud wrth Albert i baratoi’r plentyn i fynd tu allan, sy’n arwain at ganlyniadau dinistriol i bawb o’u cwmpas. Yn seiliedig ar nofela Brian Catling, gyda sgôr rythmig gan Agustin Viard a Warren Ellis, dyma ddrama freuddwydiol foel, enigmatig ac abswrdaidd gan Hadzihalilovic, sydd wedi dod yn amlwg fel llais newydd ym myd sinema Ewrop yn dilyn ei dwy ffilm ddiwethaf Innocence ac Évolution.
Gwen 22 - Sul 24 , Maw 26 - Iau 28 Medi