
Prydain | 2021 | 82’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Saesneg ac Arabeg gydag isdeitlau | Sarah Beddington
Yn ei ffilm ddogfen nodwedd gyntaf mae’r artist gweledol Sarah Beddington yn gwau stori am reddf adar mudol i ddychwelyd, gyda phortread clòs o Fadia, a anwyd mewn gwersyll i ffoaduriaid o Balesteina yn Libanus. Mae Fadia’n herio Sarah i chwilio am goeden mwyar Mair hynafol a oedd yn tyfu drws nesaf i dŷ ei thaid, ac fu’n dyst i fodolaeth ei theulu a’u halltudiaeth orfodol ym 1948. Mae hon yn daith y mae Fadia ei hunan wedi’i gwahardd rhag ei gwneud. Myfyrdod ar ryddid i symud, rhesymeg byd natur, a gobaith di-baid am gael dychwelyd.
Gwen 27 Ion - Gwen 3 , Maw 7 & Iau 9 Chw