
Denmarc | 2021 | 83’ | tystysgrif i’w chadarnhau | Iaith Dramor | Jonas Poher Rasmussen
Mae Flee, a enillodd Wobr Uwch Reithgor Sinema’r Byd am Ffilm Ddogfen yn Ngŵyl Ffilmiau Sundance, yn dyst i gyfeillgarwch, teulu a derbyniad.
Mae’r cyfweliad tyner yma rhwng y cyfarwyddwr ffilm Jonas a’i ffrind ysgol Amin, flynyddoedd ar ôl iddynt gwrdd am y tro cyntaf, yn blodeuo i fod yn stori eithriadol am gariad, goroesi a gwytnwch. Mae animeiddiad bywiog yn paentio stori ymadawiad Amin, o’r hyn a fu’n gartref plentyndod hapus yn Affganistan, a gaiff ei chwalu wedyn gan ryfel, i’w fywyd presennol fel academydd llwyddiannus yn Nenmarc. Wrth iddo baratoi i gymryd y cam nesaf yn ei ymrwymiad i’w bartner hirdymor Kasper, mae Amin yn cofio ei ofnau blaenorol o gael ei erlid, a sut nad oedd gair am fod yn hoyw yn Affganistan. Mae atgofion yn cael eu llunio ag olion brwsh; diwrnodau lliwgar o fyd-olwg plentyn, lliwiau tawel yr ansicr, a’r clustffonau pinc llachar sy’n torri ar draws ei stori gyda chaneuon egnïol a di-hid yr wythdegau. Tan nawr, dydy Amin erioed wedi rhannu ei stori gyfan, gan fod cyfrinach sy’n bygwth dadsefydlogi’r bywyd mae wedi’i adeiladu. Mae’n ffilm gymhellol sy’n ystyried beth yw ystyr adref.
Gwen 29 Medi, Maw 3 - Iau 5 Hyd