
Iwerddon | 2022 | 100’ | 15 | Saela Davis, Anna Rose Holmer | Paul Mescal, Emily Watson
Mewn pentref pysgota gwyntog yn Iwerddon, mae Aileen wrth ei bodd pan mae ei mab Brian yn dychwelyd o fod yn teithio ac yn ailymuno â’u cymuned glos. Ond pan mae’n cael ei gyhuddo o drosedd, mae’n dechrau cwestiynu popeth mae’n ei wybod am ei mab a’r bobl mae hi wedi byw yn eu plith drwy gydol ei hoes. Campwaith actio gan Emily Watson brofiadol a Paul Mescal sy’n derbyn llwyth o wobrau ar hyn o bryd, mewn stori epig emosiynol am gyfiawnder.