Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella sut mae'n gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio.      Rheoli   |   Polisi preifatrwydd

Accept & Continue

Gwledd (18)

Cymru | 2021 | 93’ | 18 | Lee Haven Jones | Cymraeg gyda is-deitlau Saesneg |
Annes Elwy, Nia Roberts, Steffan Cennydd, Lisa Palfrey, Julian Lewis Jones, Rhodri Meilir

Mae’r Aelod Seneddol Gwyn a’i wraig drwsiadus Glenda yn cynnal swper i ddyn busnes lleol er mwyn gwneud dêl ynghylch eu tir. Mae menyw ifanc ddirgel yn cyrraedd i weini ar gyfer y teulu am y noson, ond caiff eu credoau a’u gwerthoedd eu herio’n ddwys wrth i’w phresenoldeb tawel ac annifyr ddechrau datod eu bywydau’n araf. Stori arswyd werin ddanteithiol a daearol am ein perthynas â’r tir. 

Bydd yna gyflwyniad byr cyn y ddangosiad am 11:50yb ar y 29 Hydref. 

 

Dangosiad fel rhan o Mewn Breuddwydion mae Angenfilod: Tymor o Ffilmiau Arswyd, sef tymor sinema a ddethlir ledled Prydain, ac a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain. indreamsaremonsters.co.uk

Rhaglen cyfan BFI In Dreams Are Monsters:

In Dreams are Monsters - Horror Season | Official Website | 17 October 2022

In Dreams Are Monsters - Film Hub Midlands

undefined

Prisiau:

£6 / £4 

Tocynnau ac Amseroedd