
Ffrainc/Swistir | Ffrangeg gyda chapsiynau | 96’ | 18 adv | Théo Kermel, Pierre Meunier, Ayumi Roux
Cyfarwyddwyd gan Damien Odoul
Cynhyrchwyd gan Kidam
*Cip Ymlaen Llaw – DANGOSIAD CYNTAF YN Y DEYRNAS UNEDIG*
Mae’r ffilm hon, sydd eisoes yn ennill gwobrau yn rhai o’r gwyliau ffilmiau mwyaf adnabyddus yn Ewrop, yn dilyn Théo, dyn 27 oed â syndrom Down, sy’n byw mewn coedwig anghysbell gyda’i dad. Bob dydd, mae’n hyfforddi ei gorff i fod yn samurai. Un diwrnod, mae ei dad yn gadael ac mae Théo yn penderfynu dechrau bywyd newydd.
Mae’r ffilm drawiadol a mentrus hon yn cyfuno harddwch â beiddgarwch ac yn mynnu cael ei gweld. Mae Gŵyl Ffilmiau Undod yn falch iawn o fod yn dangos y rhagolwg arbennig hwn cyn i’r ffilm gael ei rhyddhau’n swyddogol yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Sesiwn Holi ac Ateb fyw ar ôl y dangosiad rhagflas gyda chyfarwyddwr y ffilm, Damien Odoul, a’r actor Théo Kermel.
Sesiwn Holi ac Ateb: Iaith Arwyddion Prydain
Gwen 29 Medi, Maw 3 - Iau 5 Hyd