
Prydain | 2022 | 97’ | 12A | Sonita Gale
Ffilm ddogfen yn archwilio perthynas gymhleth y Deyrnas Unedig gyda’i chymunedau mudol a pholisïau ‘amgylchedd gelyniaethus’ esblygol llywodraeth Prydain. Mae’r ffilm, a gaiff ei hadrodd drwy straeon pedwar cyfrannydd o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn canolbwyntio ar y polisïau sydd wedi’u cynllunio i wneud amodau byw mor anodd i fewnfudwyr nes eu bod nhw’n gadael y wlad o’u gwirfodd. Gan edrych ar yr effaith ar fywydau myfyrwyr rhyngwladol, aelodau o genhedlaeth Windrush, ac ‘ymfudwyr medrus iawn’, mae’r ffilm yn gofyn: Beth mae bod yn Brydeinig yn ei olygu? Sut mae’n teimlo pan fydd rhywun yn dweud wrthoch nad ydych chi’n perthyn? Mae Hostile yn ceisio gwrando ar y lleisiau yma ac ysbrydoli’r gwylwyr i weithredu i greu newid hirdymor.